Plant yn gorymdeithio am gyfiawnder hinsawdd yn Minnesota, UDA yn Ebrill 2017. | |
Enghraifft o'r canlynol | mudiad torfol |
---|---|
Math | cyfiawnder amgylcheddol |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae cyfiawnder hinsawdd yn derm a ddefnyddir i fframio cynhesu byd-eang fel mater moesegol a gwleidyddol, yn hytrach nag un sy'n amgylcheddol neu'n ffisegol ei natur yn unig. Gwneir hyn trwy gysylltu achosion ac effeithiau newid hinsawdd â chysyniadau cyfiawnder, yn enwedig cyfiawnder amgylcheddol a chyfiawnder cymdeithasol . Mae cyfiawnder hinsawdd yn archwilio cysyniadau fel cydraddoldeb, hawliau dynol, hawliau ar y cyd, a materion hanesyddol, megis y cyfrifoldeb dros newid hinsawdd. Gall cyfiawnder hinsawdd gynnwys cymeryd camau cyfreithiol yn erbyn cyrff nad ydynt wedi ymateb i newid hinsawdd, neu gyrff sydd wedi cyfrannu tuag at gynhesu byd eang. Gelwir hyn yn Cyfreitha newid hinsawdd (Climate change litigation). Yn 2017, nododd adroddiad o Raglen Amgylcheddol y Cenhedloedd Unedig 894 o gamau cyfreithiol ledled y byd ar yr adeg honno.
Mae cymunedau sydd ar y cyrion yn hanesyddol, fel menywod, cymunedau brodorol a chymunedau lliw yn aml yn wynebu canlyniadau gwaethaf newid hinsawdd: i bob pwrpas mae'r lleiaf cyfrifol am newid hinsawdd yn dioddef ei ganlyniadau gwaethaf. Gallant hefyd fod dan anfantais bellach oherwydd ymatebion i newid hinsawdd (a sgil-effethiau hynny) a allai waethygu'r anghydraddoldebau presennol; dyma'r hyn a elwir yn 'anghyfiawnderau triphlyg' newid hinsawdd.[1][2][3]
Mae'r defnydd a phoblogrwydd iaith o amgylch cyfiawnder hinsawdd wedi cynyddu'n ddramatig yn ystod y 2020au, ac eto mae cyfiawnder hinsawdd yn cael ei ddeall mewn sawl ffordd, ac mae'r gwahanol ystyron yn cael eu hymladd mewn llysoedd weithiau. Ar ei symlaf, gellir grwpio cysyniadau o gyfiawnder hinsawdd yn unol â chyfiawnder gweithdrefnol, sy'n pwysleisio gwneud penderfyniadau teg, tryloyw a chynhwysol, a chyfiawnder yr aflonyddwr, sy'n gosod y pwyslais ar bwy sy'n ysgwyddo'r costau o newid yr hinsawdd a'r camau a gymerir i fynd i'r afael a'r gwaith yma.[1]
Canolbwyntir yn arbennig ar rôl MAPA (Pobl ac Ardaloedd yr Effeithir Mwyaf Arnynt neu 'Most Affected People and Areas')[4] hy grwpiau sy'n cael eu heffeithio cryn dipyn gan newid hinsawdd, megis menywod, BIPOC,[5] pobl ifanc, hŷn a thlawd.[6] Yn y 2020au gwelwyd cynnydd mewn mudiadau llawr gwlad sydd a'r nod o gyfiawnder hinsawdd - mudiadau fel Fridays for Future, Ende Gelände neu Extinction Rebellion.[7]
© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search